Skip to main content

My Blurred World

Galar

Dwi ddim yn un am rannu manylion personol tu hwnt i’r holl erthyglau am fyw bywyd fel person anabl, ond roedd ‘na rwbath yn fy nhynnu tuag at cyhoeddi hwn. Mae galar yn effeithio pawb mewn gwahanol ffyrdd a mae o’n bwysig cydnabod a parchu hynny. Yn naturiol, dwi wedi troi at sgwennu fy nheimladau ar ôl profedigaeth yn ddiweddar, ac mae o wedi troi allan fel rhyw fath o lythyr i’r person wnaeth ein teulu ni golli. Dwi’n gobeithio neith o ei chyrraedd ryw ffordd.

Galar: deud hwyl fawr

Curiad tristwch yn y gofod ‘da chi wedi ei adael. Mae o’n rywbeth na allai ei ddisgrifio’n iawn, ond dwi’n gwbod mai galar ydi o.

Mae’r teimlad yn chwyddo yn y lle y gwnaeth eich chwerthin lenwi unwaith. Mae popeth o’n ngwmpas wedi troi yn symbol, yn hanesyn, yn nodyn atgoffa. Mae’r atgofion yn neidio ym mhob cornel o’n feddwl i wrth i mi gofio’r eiliadau pur wnes i dreulio yn eich cwmni. Mae meddwl am yr amseroedd hynny yn tynnu fy ngwefusau i mewn i wên, ond yna mae realiti yn crafangu, yn cysylltu ei hun â’r atgofion cyn eu llusgo i mewn i ddyfnderoedd y gwir. Da’ chi wedi ein gadael ni.

Dwi’n ymestyn fy mreichiau pan ddaw’r bore, estyn am atgof newydd i ddal gafael ynddo a’i goleddu. Gobeithio y bydd yr haul yn pylu’r tywyllwch, y bydd cân yr adar a si parhaus bywyd yn chwarae dros y trac sy’n ailadrodd yn fy mhen; Dwi’n eich colli chi. Dwi’n gwbod y bydd yn dod yn haws gydag amser, mae pobl yn deud hynny, ond ar hyn o bryd, ma’ pob teimlad yn drwm. 

Dwi’n gwbod ei fod o’n iawn i deimlo fel ‘na. Mae’n iawn treulio amser ar eich pen eich hun, i gofio a prosesu. Dwi’n gwbod y bysa chi’n deud hyna wrthai.

Mae llunia galore yn addurno’r bwrdd, yn cynnig cip o amseroedd da. Mae’r wên ym mhob un yn cael ei hadlewyrchu eto wrth i ni, eich anwyliaid, eich teulu, wingo a chofio wrth edrych ar y gwisgoedd a’r steiliau gwallt amheus.

Mae’r lluniau yn cael eu disgrifio i mi, a’r disgrifiadau hynny’n tanio fy atgofion fy hun, y rhai na welir ond a gofir yn galonnog. Mae’r holl straeon ac eiliadau wedi eu storio mewn cornel o fy meddwl o dan eich enw chi.

Dwi’n cofio sut wnaethon ni rannu straeon, gwrando a chwerthin. Dwi’n cofio sut wnaethoch chi leddfu fy mhryderon â’ch geiriau doeth pan wnes i ddwyn unrhyw foment rydd yn yr ysgol i’w dreulio gyda chi. Dwi’n cofio sut, pan o’n i yn fy eiliadau tywyllaf, roeddech chi yna i ddarparu goleuni, cysur a phlât o gacennau ffres i ddarostwng poen realiti. Eich cacennau chi oedd yr ateb bob tro.

Dwi’n cofio’r gymeradwyaeth a gynigiwyd gennych pan nes i a’m mrawd berfformio ein deuawdau neu’n darnau piano, a mi nai wenu bob tro y byddai’n cofio sut yr oeddech yn trysori ein CD’s cartref, er bod ein traciau yn amheus ar y gorau.

Pethau bach fel ’na y byddwn ni’n eu dal yn agos at ein calonnau.

Yr eiliadau hynny, a chymaint o rai eraill. Allwn ni ddim anghofio’r holl amseroedd yna’n gwylio ‘The Chase’ a dod i’r casgliad nad oedden ni, mewn gwirionedd, yn ddigon clyfar.

Mi fyddai’n colli dysgu pethau newydd gennych chi ond mi nai gario’r pethau a ddysgoch i mi fel bathodynnau anrhydedd oherwydd dwi’n gwbod eich bod yn teimlo’n falch pryd bynnag wnaethoch basio darn o’ch talent ymlaen. Er, allai fyth honni fy mod wedi etifeddu eich sgiliau pobi.

Mi fyddai’n gweld eisiau’ch straeon, eich chwerthin, a’ch jôcs un-lein trawiadol. Mi fyddai’n colli eich clywed yn diddymu’r clecs teulu diweddaraf a chlywed y wên yn eich llais pryd bynnag oeddach chi’n siarad am eich anwyliaid.

Mi fyddai’n gwenu wrth i mi gofio’r amseroedd hynny, mi fyddai’n gwenu pan gai’n atgoffa o sut y gwnaethoch gadw eich eiddo gwerthfawr wrth eich ochr, a byddai bob amser yn ddiolchgar ac yn wylaidd am y ffaith bod llyfr printiedig o’m mlog posts yn eu plith. .

Roedd eich cefnogaeth ddiwyro bob amser mor eglur a chalonogol.

Ac mae hyna’n fy arwain i ddeud diolch. Diolch am y cyfan, a’r holl bethau eraill dwi ddim wedi nodi yma.

Dwi mor ddiolchgar am yr amseroedd a gawsom gyda chi, a’r holl atgofion y gallwn ni edafu at ei gilydd i greu blanced o gysur, yn union fel y rhai oeddech chi’n arfer eu gwau.

Mae’n teimlo fel nad oes gan y cariad a oedd gen i tuag atoch chi le i fynd rwan, ac mae meddwl am eich absenoldeb yn parhau i fy nal. Ond dwi’n gwbod na fysa chi isio i ni fod yn drist.

Mae gan yr awyr seren ychwanegol rwan a gwn y byddwch chi’n disgleirio arnom ni, ddydd a nos, gan ddarparu goleuni, yn union fel da chi wedi’i wneud erioed.

Byddwn yn trysori yr holl atgofion yn union fel y gwnaethoch chi goleddu pob un ohonom, eich teulu, yn ystod eich hoes. A mi fyddai’n cymryd cysur yn y ffaith y bydd rhan ohonoch chi’n byw ynom ni am byth. 

Elin x